Gweithdy Slapstic
Ar gael nawr!Bydd Yncl Tacko a Spike yn eich dysgu sut i wneud comedi corfforol, gan ddefnyddio propiau syml o amgylch y tŷ. Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu sut i wneud y perfformiad ‘Tit-for-Tat’! Cadwch lygaid am ran 2 a 3 sy’n dod yn fuan.
Ar gyfer y gweithdai hyn, byddwch angen:
- Gofod clir heb unrhyw rwystrau
- Dillad llac
- Llwy bren
- Propiau aer neu sbwng / nwdls nofio
- Platiau papur
- Ewyn Baddon