Gwirfoddoli gyda ni

Mae dwy ffordd o wirfoddoli yn Venue Cymru

Mae gwirfoddoli yn Venue Cymru yn ffordd rhwydd o ddod i adnabod pobl newydd. Gweithiwn gyda'n gilydd i ddarparu wasanaeth effeithlon a chroesawgar o'r safon uchaf i bawb sy'n ymweld a'r Theatr - cyfle gwych i helpu bobl eraill.

Dilwyn Price  

Stiwardiaid gwirfoddol

Mae ein stiwardiaid gwirfoddol yn chwarae rhan hanfodol fel wyneb cyhoeddus i Venue Cymru yn ystod ein perfformiadau a’n digwyddiadau, gan sicrhau fod ein mynychwyr yn cael profiad cadarnhaol, diogel a llawn mwynhad boed hynny ar y safle, neu mewn digwyddiadau allanol a redwn.

Dylech nodi cyn gwneud cais i fod yn stiward gwirfoddol y bydd disgwyl i chi fod yn bresennol am nifer benodol o weithiau ac mae’n bosibl y bydd gofyn i chi drin arian a defnyddio’r grisiau ar bob lefel o’r lleoliad.

 

Mae gofyn i stiwardiaid weithio yn ystod pedair sioe bob mis o leiaf a bod yn hyblyg gan fod ein rhaglenni yn cynnwys perfformiadau matinee yn ogystal â rhai gyda'r nos.

Mae ein rhaglen yn amrywiol iawn a byddwch yn cael cyfle i fwynhau theatr fyw a genres o gynyrchiadau byw na fyddwch o bosibl wedi’u gweld o’r blaen.

 

Mae ffurflen gais isod neu fel arall e-bostiwch eich enw, dyddiad geni a’ch manylion cyswllt ynghyd ag unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych a’ch diddordeb yn y theatr at info@venuecymru.co.uk.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event