Gweinyddwr Llawrydd – Cymerwch Ran Ionawr 2027
Gweinyddwr Llawrydd – Cymerwch Ran Ionawr 2027 yn Venue Cymru
Un adeilad. Dau ddiwrnod. 10,000 o bobl. Llawer o hwyl.
Ac mae angen rhywun hynod o drefnus arnom i helpu i drefnu popeth.
Lleoliad: Venue Cymru, Llandudno (ystyrir gweithio hybrid)
Contract: Llawrydd / contract tymor byr
Ffi: £1,000 am 20 hanner diwrnod, Ebrill 2026 i Ionawr 2027
Beth yw Cymerwch Ran?
Digwyddiad creadigol poblogaidd Venue Cymru yw Cymerwch Ran – deuddydd prysur yn llawn gweithgareddau ymarferol, artistiaid, sefydliadau a miloedd o bobl ifanc ac oedolion yn cymryd rhan. Mae’n fywiog, prysur a hynod o foddhaus.
Y rôl
Rydym yn chwilio am Weinyddwr Llawrydd hyderus, cyfeillgar a hynod o drefnus i helpu i ddod â’r rhaglen at ei gilydd y tu ôl i’r llenni. Chi fydd yn cadw popeth (a phawb) yn symud – o sgyrsiau cychwynnol gydag artistiaid, hyd at sicrhau bod popeth sydd ei angen arnynt ganddynt yn y cyfnod sy’n arwain at y penwythnos.
Os ydych chi’n hoffi cydlynu manylion, siarad â phobl a gweld digwyddiad creadigol mawr yn dod at ei gilydd, dyma’r cyfle i chi.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
- Sgwrsio gydag artistiaid a sefydliadau dros y ffôn, e-bost a Teams
- Cysylltu â darparwyr gweithgareddau newydd a dechrau sgyrsiau yn hyderus
- Rheoli pob archeb am weithgaredd o’r dechrau i’r diwedd
- Cyswllt cyntaf
- Cadarnhau manylion
- Cyhoeddi contractau
- Rhannu gwybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl ar y diwrnod
- Sicrhau bod yr holl wybodaeth ymarferol ar gael ar gyfer darparu’r digwyddiad
- Creu amserlenni clir fel bod pawb yn gwybod beth sy’n digwydd, lle a phryd
- Gweithio’n agos gyda thîm Marchnata Venue Cymru i sicrhau bod gweithgareddau wedi’u rhestru’n briodol ar wefan Cymerwch Ran
- Rhannu gwybodaeth gyda thîm Cymerwch Ran am gynnydd y rhaglen
- Cysylltu a gweithio gyda’r tîm i gael syniadau, cyngor a gwiriadau fel bo’r angen.
Byddwch chi’n wych ar gyfer y rôl hon os yw’r canlynol yn wir:
- Rydych chi’n naturiol drefnus ac wrth eich bodd gyda rhestr wirio dda
- Rydych chi’n hyderus wrth godi’r ffôn a siarad gyda phobl newydd
- Rydych chi’n gallu cadw golwg ar sawl tasg ar yr un pryd heb golli gafael arnynt
- Rydych chi’n gallu cyfathrebu’n glir a phroffesiynol
- Rydych chi’n hapus yn gweithio’n annibynnol wrth ddal i fod yn rhan o dîm
Mae profiad o’r celfyddydau, digwyddiadau neu brosiectau diwylliannol, a phrofiad o ddigwyddiad Cymerwch Ran yn fonws – ond nid yw’n hanfodol, os oes gennych chi’r sgiliau a’r agwedd gywir.
Pam ymuno â Cymerwch Ran?
Oherwydd mae’n llawen a chreadigol ac mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Byddwch chi’n helpu i ddarparu digwyddiad sy’n agor drysau, tanio chwilfrydedd a chroesawu miloedd o bobl i Venue Cymru i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Mae’r rôl wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy, ac maen nhw’n ein helpu i gynnig creadigrwydd, cyfle a hwyl i filoedd o gyfranogwyr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV gyda llythyr eglurhaol at cymerwchran@venuecymru.co.uk erbyn 27/04/26
Os mai nid llythyr eglurhaol traddodiadol yw’r ffordd orau i chi roi gwybod i ni am eich profiad, mae croeso i chi gyflwyno’r wybodaeth mewn fformat gwahanol (er enghraifft, pwyntiau bwled, ffeil sain fer neu fideo byr).