Prosiect Dyfodol Venue Cymru
Mae Prosiect Dyfodol Venue Cymru yn fuddsoddiad cyffrous a fydd yn helpu Venue Cymru i ffynnu ar gyfer y dyfodol. Bydd yn moderneiddio’r adeilad, gwarchod a gwella llyfrgell ardal Llandudno, creu Canolbwynt Diwylliant newydd sbon, a darparu cartref croesawgar a chynaliadwy ar gyfer Gwasanaeth y Ganolfan Groeso.
Ar y dudalen hon, fe ddewch o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect cyffrous hwn.