Wedi’i enwi fel “y gorau na fuodd erioed”, roedd Sonny Hayes (Brad Pitt) yn ffenomenon mwyaf addawol FORMULA 1 yn y 1990au, tan i ddamwain ar y trac bron a dod a’i yrfa i ben. Deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae’n gweithio fel rasiwr sy’n cael ei logi, pan mae ei gyn gyd-yrrwr Ruben Cervantes (Javier Bardem), perchennog tîm FORMULA 1 sy’n gwegian, yn cysylltu ag ef.
Mae Ruben yn perswadio Sonny i ddod yn ôl i FORMULA 1 am un cyfle arall i achub y tîm a bod y gorau yn y byd. Bydd yn gyrru ar y cyd a Joshua Pearce (Damson Idris), gyrrwr newydd y tîm sydd a’i fwriad ar fynd ar ei gyflymder ei hun.
Ond wrth i’r injan sgrialu, mae gorffennol Sonny yn dod i’w wynebu ac mae’n darganfod yn FORMULA 1, eich cyd-yrrwr yw eich cystadleuaeth pennaf - ac ni allwch deithio ar eich pen eich hun ar y ffordd i iachawdwriaeth.