How To Train Your Dragon (PG)
-

How To Train Your Dragon (PG)

-
Archebwch Nawr

Mae How To Train Your Dragon yn ail-ddychmygiad byw o’r ffilm a lansiodd y gyfres o ffilmiau animeiddiad poblogaidd.

Ar ynys garw Berk, lle mae Llychlynwyr a dreigiau wedi bod yn elynion pennaf ers cenedlaethau, mae Hiccup (Mason Thames; The Black Phone, For All Mankind) yn wahanol. Mae mab dyfeisgar y Pennaeth Stoick the Vast (Gerard Butler, sy’n dychwelyd i’w rôl fel y llais o’r gyfres animeiddiad), Hiccup yn gwrthdroi traddodiad sydd wedi para canrifoedd, pan mae’n dod yn ffrindiau â Toothless, draig Night Fury.

Mae eu perthynas annhebygol yn datgelu gwir natur y dreigiau, gan herio seiliau cymdeithas y Llychlynwyr. Gyda’r cymeriad tanbaid ac uchelgeisiol Astrid (Nico Parker; Dumbo, The Last of Us) a gof rhyfedd y pentref Gobber (Nick Frost; Snow White and the Huntsman, Shaun of the Dead) ger ei ochr, mae Hiccup yn herio’r byd sydd wedi’i rannu gan ofn a chamddealltwriaeth. Wrth i fygythiad hynafol godi, gan beryglu’r Llychlynwyr a’r dreigiau, mae cyfeillgarwch Hiccup a Toothless yn dod yn allwedd i greu dyfodol newydd.

Gyda’i gilydd rhaid iddynt lywio llwybr bregus tuag at heddwch, gan hedfan tu hwnt i ffiniau eu bydoedd ac ail-ddiffinio’r hyn mae’n ei olygu i fod yn arwr ac arweinydd.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event