Dangosiad o Ffilm Ffotograffiaeth yn Oriel Colwyn
Roedd ffotograffiaeth Tish Murtha o bobl ar ymylon cymdeithas ym Mhrydain Thatcher yn herio anghydraddoldeb, ond eto nid oedd yn gallu dianc o’r tlodi a gofnododd a bu farw’n 56 oed, ei gwaith yn gymharol anhysbys. Mae TISH yn dilyn ei merch wrth iddi ailymweld â delweddau ac adegau allweddol ym mywyd ei mam i sefydlu ei gwaddol.
Wedi’i hadrodd gan Maxine Peake
Mae Tish yn cynnwys rhywfaint o noethni rhywioledig