Gwneud Robot allan o Ganiau Tun Gwag gyda Mike Badger
Ar gael nawr!Addas ar gyfer plant blwyddyn 8 a throsodd
BYDD ANGEN GORUCHWYLIAETH OEDOLYN DRWY GYDOL YR ADEG
Byddwch angen:
** 2/3 o ganiau tun (wedi’u golchi â’r labeli wedi’u tynnu)
** Darn bach o bren 2×1 – tua 8 modfedd o hyd.
** Pinnau panel
** Morthwyl bach
** Torrwr tun (neu siswrn cryf)
** Bwlb golau bach neu falf
Os oes gennych fainc waith yn y cartref, defnyddiwch honno, fel arall adeiladwch y robot ar lawr addas.
Mae Mike Badger yn gwneud cerfluniau o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn cynnwys caniau tun a gwrthrychau metel y mae’n dod o hyd iddynt.
Mae’r cerfluniau y mae’n eu creu wedi’u hysbrydoli gan deganau tun ei ieuenctid ond mae ganddo hefyd neges amgylcheddol sylfaenol ynghylch pwysigrwydd ailgylchu.