Yn syth o theatr y Palladium yn Llundain, daw’r cynhyrchiad newydd anhygoel o un o’r sioeau cerdd mwyaf poblogaidd yn y byd i Landudno.
Gyda The Vivienne, enillydd RuPaul’s Drag Race UK a seren Dancing on Ice, yn ymddangos fel y Wicked Witch of the West a Gary Wilmot fel y Wizard, bydd y cynhyrchiad godidog hwn yn brofiad hudolus i’r teulu oll.
Cewch glywed y sgôr wreiddiol gampus o’r ffilm MGM a enillodd Oscar, gan gynnwys Over the Rainbow, Follow the Yellow Brick Road a We’re Off to See the Wizard a chaneuon ychwanegol gan Andrew Lloyd Webber a Tim Rice.
Ymunwch â Dorothy, Toto a’u ffrindiau ar antur fythgofiadwy i lawr y ffordd frics melyn i wlad lawen Oz.
Does unlle tebyg i Landudno ym mis Mawrth 2024.