Waitress
-

Dyddiad wedi’i newid

Waitress

Comedi sioe gerdd rhamantaidd

-
Archebwch nawr

Mae Jenna yn weinyddes ac yn arbenigo mewn gwneud pasteiod ac yn breuddwydio am ychydig o hapusrwydd yn ei bywyd. Pan mae meddyg golygus iawn yn symud i’r dref mae bywyd yn mynd yn gymhleth. Gyda chefnogaeth ei chydweithwyr, Becky a Dawn mae Jenna yn mynd i’r afael â’r heriau y maen ei wynebu ac yn sylweddoli bod chwerthin, cariad a chyfeillgarwch yn gallu cynnig y nodweddion perffaith ar gyfer hapusrwydd.

Mae’r sioe yn dod yn fyw gyda pherfformiad sy’n torri tir newydd gan y tîm creadigol wedi’i arwain gan ferched. Mae’r sioe yn ôl yr EXPRESS yn ‘warm, witty, wise and hilarious’ ac yn ôl THE STAGE yn cynnwys ‘one of the best scores in years’ gan yr enillydd gwobr Grammy, Sara Bareilles (Love Song, Brave), llyfr gan y sgriptwraig ffilmiau, Jessie Nelson (I Am Sam) ac yn cael ei gyfarwyddo gan enillydd gwobr Tony®, Diane Paulus (Pippin, Finding Neverland).

Gyda phawb yn codi ar eu traed i gymeradwyo bob nos yn West End Llundain ac ar Broadway, yn ôl yr INDEPENDENT mae comedi sioe gerdd y Waitress yn ‘the real deal’ a ‘made from the finest ingredients’ yn ôl TIME OUT.

Archebwch eich tocynnau rŵan ar gyfer sioe ‘joyously life-affirming celebration of love and friendship’ yn ôl THE EXPRESS.

Lluniau o gynyrchiadau’r Daith yn yr Unol Daleithiau a’r West End. Cast ar gyfer Taith DU ag Iwerddon i’w gyhoeddi’n fuan.