Mae That’ll Be The Day yn ôl ar daith gyda sioe anhygoel arall yn llawn o berfformiadau o safon ryngwladol gan Trevor a’r cast ensemble hynod ddawnus.
Gadewch i brif sioe Roc a Rôl y byd fynd â chi ar daith drwy’r blynyddoedd, wrth i chi ddathlu adegau mwyaf eiconig oes aur Roc a Rôl a Phop gyda’ch gilydd, o’r 50au yr holl ffordd hyd at yr 80au.
Gan gyfuno sgetshis a dynwarediadau doniol a llawn cynnwrf gyda lleisiau gwych a dawn gerddorol anhygoel, mae That’ll Be The Day wir yn unigryw. Does dim rhyfedd fod y sioe wedi bod yn teithio’n ddi-baid ers 35 o flynyddoedd ac yn mynd o nerth i nerth! Ymunwch â Trevor a’r cast eithriadol am brofiad a fydd yn codi’r galon ac a fydd yn gwneud i chi ganu a dawnsio ac yn eich gadael yn dyheu am ychydig bach mwy.
Os byddwch chi ond yn gweld un sioe theatr eleni, hon yw’r un.
‘THREE HOURS OF MUSIC & MAYHEM’
The Express
‘THE BEST ROCK ‘N’ ROLL SHOW ON THE ROAD’
Time Out