Bydd Breninesau Drag yn swagro ar draws y DU yn yr hydref ar gyfer Taith Trydedd Gyfres RuPaul’s Drag Race UK.
Mae dyddiadau’r DU yn cynnwys ymweliad â Venue Cymru, a gallwch ddisgwyl noson o strafagansa ddi-ben-draw wrth i BOB UN o 12 brenhines Trydedd Gyfres RuPaul’s Drag Race UK siglo’u ffordd ar draws y wlad.
Dewch i weld pa mor garismatig, unigryw, beiddgar a dawnus yw eich hoff freninesau’n FYW ar y llwyfan.
Yn nodedig am eu cynyrchiadau anhygoel, gallwch ddisgwyl yn annisgwyl ar y daith ddisglair hon fydd yn cynnwys y breninesau a gyrhaeddodd rownd derfynol y Drydedd Gyfres, sef Kitty Scott-Claus, Krystal Versace, Vanity Milan ac Ella Vaday.