Taith RuPaul's Drag Race o amgylch y DU

Taith RuPaul's Drag Race o amgylch y DU

Dyddiad ychwanegol – 22 Mawrth 2022

Archebwch nawr

Llandudno, byddwch yn barod!  Bydd Arglwyddes Drag yn dychwelyd yn 2022 ar gyfer taith fwyaf RuPaul erioed yn y DU.

Ymunwch â breninesau RuPaul’s Drag Race UK am noson o strafagansa campus a di-ben-draw wrth i’r daith newydd sbon hon gyrraedd theatrau a lleoliadau ar draws Prydain.

Dewch i weld mor garismatig, unigryw, beiddgar a dawnus yw eich hoff freninesau’n FYW ar y llwyfan wrth iddynt swagro i theatr yn agos atoch chi.

Mae’n cael ei chanmol am ei chynhyrchu anhygoel, felly gallwch ddisgwyl popeth annisgwyl yn y daith ddisglair yma gyda Tayce, Bimini Bon Boulash, Ellie Diamond a Laurence Chaney o rownd derfynol Cyfres 2 yn y DU, ynghyd â sêr o Drag Race UK.

Mae RuPaul's Drag Race UK: The Official Tour yn cael ei chyflwyno gan gynhyrchwyr Werq The World Voss Events a chrewyr Drag Race World of Wonder, ar y cyd â Live Nation a Cuffe and Taylor.