Strictly Ballroom - The Musical
-

Strictly Ballroom - The Musical

-
Archebwch nawr

Mae Strictly Ballroom the Musical, sy’n seiliedig ar y ffilm a ddaeth yn ffenomenon fyd enwog, ac sydd wedi ennill sawl gwobr, yn mynd ar daith o amgylch Prydain ac Iwerddon!

Gyda chyfarwyddyd Craig Revel Horwood, y dawnsiwr, y coreograffydd a'r cyfarwyddwr theatr, a hoff Feirniad teledu Prydain, bydd y sioe gerdd yn dawnsio ar ei hynt o amgylch Prydain o fis Medi 2021 ymlaen.

Mae Strictly Ballroom the Musical, sy’n tynnu ynghyd cast o 20 o berfformwyr o safon rhyngwladol, yn dilyn dawnsiwr neuaddau dawns ifanc, haerllug, gwrthryfelgar o’r enw Scott Hastings. Wedi iddo golli ffafr ymhlith Ffederasiwn Awstralia am ei arddull dawns redical a beiddgar, mae’n rhaid iddo ddawnsio gyda’r dechreuwr, Fran. Gyda’i gilydd, maent yn canfod y plwc i herio traddodiad a darganfod nad oes rhaid cadw’n gaeth at ddawnsio ystafell ddawns er mwyn ennill!

Mae’n cynnwys caneuon lle byddwch yn siŵr o ymuno yn y canu fel Love is in the Air, Perhaps Perhaps Perhaps a Time After Time, yn ogystal a sawl cân newydd gan artistiaid byd enwog gan gynnwys Sia, David Foster ac Eddie Perfect.  Mae’r sioe’n siŵr o gynnig noson i’w chofio dan y bêl gliter a fydd yn gwneud i’ch calon garlamu a bodiau eich traed i dapian!