The Rocky Horror Show
-

The Rocky Horror Show

-
Archebwch Nawr

Yn barod i’ch gwefreiddio gydag adegau hwyliog a drwg, mae sioe gerdd roc a rôl chwedlonol Richard O’Brien, The Rocky Horror Show yn dychwelyd i’r DU yn 2021 yn rhan o daith fyd eang, gyda dros 3 miliwn o bobl eisoes wedi gwylio’r sioe.

Wedi’i gyfarwyddo gan Christopher Luscombe ac yn cynnwys clasuron, yn cynnwys Sweet Transvestite, Damn it Janet, ac wrth gwrs Time Warp.

Hanes dau fyfyriwr coleg cwrtais a diniwed, Brad a’i ddyweddi Janet yw The Rocky Horror Show. Mewn tro ffawd, ar ôl i’w car dorri i lawr y tu allan i blasty annifyr tra’u bod ar y ffordd i ymweld â’u hen Athro coleg, maent yn cyfarfod Dr Frank’n’Furter. Mae hi’n antur na wnawn nhw fyth ei anghofio, yn llawn hwyl, miri, ffrogiau a gwiriondeb.