Puss In Boots

Mid Wales Opera present

Puss In Boots

Archebwch Nawr

‘Pws Esgid Uchel’ El Gato con Botas gan Montsalvatge LlwyfannauLlai OCC Hydref 2022

Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer / Cyfarwyddwr Cerdd: Jonathan Lyness

Pumed daith LlwyfannauLlai Opera Canolbarth Cymru sy’n tanio ein tymor o straeon tylwyth teg, gyda fersiwn un act o hanes cyfarwydd ‘Pws Esgid Uchel’, El Gato con botas, wedi ei saernïo’n grefftus i un act gan y cyfansoddwr Catalan, Montsalvatge. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn Barcelona yn 1948 ac anaml y caiff ei pherfformio heddiw. Mae’r stori oesol hon i blant yn adrodd hanes cath ddawnus sydd, yn gyfnewid am het a chleddyf a phâr o esgidiau uchel, yn llwyddo i sicrhau bod ei feistr ifanc (mab i felinydd) yn ennill teyrnas, llaw tywysoges mewn priodas a chastell gan ellyll ar hyd y ffordd.

O’r cychwyn cyntaf mae cerddoriaeth Montsalvatge yn llawn egni, yn soniarus, gyda rhythm gafaelgar, alawon cyfoethog ac effeithiau cerddorol cathaidd! Mae cynhyrchiad OCC yn cynnwys 5 o gantorion, sy’n canu yn Saesneg, a 5 offerynnwr sy’n chwarae trefniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Bydd yr ail hanner yn gyflwyniad steil cabare o eitemau poblogaidd a difyr gan y perfformwyr i gyd.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event