Mae Peppa Pinc yn ei hôl mewn sioe fyw fendigedig newydd, Fun Day Out!
Ymunwch â Peppa, ei theulu a’i ffrindiau wrth iddynt ymweld â’r sŵ a’r traeth am barti arbennig - fe fydd yn ddiwrnod llawn hwyl a chyffro.
Byddwch yn barod i ganu a dawnsio â’r bwganod brain lliwgar, bwydo’r pengwiniaid, adeiladu cestyll tywod anferth, a hyd yn oed nofio yn y môr!
Mae Peppa’s Fun Day Out yn llawn dop o ganeuon, dawnsio a phyllau mwdlyd ac yn sicr o gael holl ddilynwyr Peppa’n chwerthin, ac yn ffordd ddelfrydol o gyflwyno plant i fyd y theatr.