Noson arbennig gydag Enillwyr Cwpan Ewrop a’r Capten Phil Thompson, Sammy Lee a Bruce Grobbelaar ar y llwyfan gyda’i gilydd, a Jed Stone yn cyflwyno. Byddant yn adrodd straeon am eu cyfnod yn chwarae i Lerpwl. Bydd y noson yn llawn adloniant a thynnu coes fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, felly ymlaciwch a mwynhewch!
Bydd cyfleoedd cyfyngedig i Gwrdd a Chyfarch cyn y sioe am luniau. Peidiwch â methu’r cyfle i fod yn un o’r rheini ... gyda phecynnau Aur ac Arian ar gael.
Pecyn Cwrdd a Chyfarch - £198
- Tocyn i’r digwyddiad
- Crys LFC replica wedi’i lofnodi gan y 3 arwr
- Llun y gallwch ei lawrlwytho 48 awr ar ôl y digwyddiad gyda’r 3 arwr a thlws Cwpan Ewrop.
- Lleoedd yn brin
Dylai’r rheiny â thocynnau Cwrdd a Chyfarch Aur gyrraedd am 17:45 ar y noson.
Pecyn Cwrdd a Chyfarch Arian - £98
- Tocyn i’r digwyddiad
- Llun maint 16 x 12 wedi’i lofnodi gan y 3 arwr
- Llun y gallwch ei lawrlwytho 48 awr ar ôl y digwyddiad gyda’r 3 arwr a thlws Cwpan Ewrop.
- Lleoedd yn brin
Dylai’r rheiny â thocynnau Cwrdd a Chyfarch Arian gyrraedd am 18:30 ar y noson.
* Oherwydd amser a chyfyngiadau, ni fydd yr arwyr yn llofnodi unrhyw eitemau eraill a gyflwynir iddynt.