The Billy Joel Songbook starring Elio Pace

The Billy Joel Songbook starring Elio Pace

Archebwch nawr

Mae’r canwr-gyfansoddwr a’r pianydd mawr ei glod Elio Pace ar y ffordd unwaith eto gyda’r profiad ‘uptown’ gorau erioed wrth iddo deithio gyda’i sioe wobrwyol a hynod boblogaidd, The Billy Joel Songbook.

Ar ôl gwerthu pob tocyn ar ei daith o amgylch y DU yn 2021, bydd Elio i’w weld mewn 20 theatr ledled Prydain ac Iwerddon eleni wrth iddo dalu teyrnged i un o gerddorion, canwyr a chyfansoddwyr mwyaf eiconig yr 20fed ganrif.

Yn The Billy Joel Songbook, mae Elio a’i fand anhygoel yn dathlu’r cerddor eithriadol o UDA gyda chyfuniad unigryw o bop, rhythm a’r blŵs, jazz a roc a rôl. Bydd y gynulleidfa’n cael ei hudo drwy ddetholiad o gerddoriaeth Joel gyda thros 30 o’r caneuon mwyaf poblogaidd, yn cynnwys The Longest Time, She’s Always A Woman, An Innocent Man, Uptown Girl, Tell Her About It, The River of Dreams, We Didn’t Start The Fire a Piano Man.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event