Tim Peake: My Journey to Space

Tim Peake: My Journey to Space

Archebwch nawr

Caewch eich gwregys yn dynn a pharatowch eich hunain am daith ryfeddol.

Mae Tim Peake yn ofodwr gyda’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Ef oedd y gofodwr Prydeinig cyntaf i ymweld â’r Orsaf Ofod Ryngwladol, pan aeth yno ym mis Rhagfyr 2015 i ‘gerdded yn y gofod’ (a rhedeg marathon!) wrth gylchdroi o amgylch y Ddaear.

Ymunwch ag ef ar siwrnai arwrol a chyffrous i’r Orsaf Ofod Ryngwladol, ar y daith estynedig boblogaidd hon o amgylch y DU.

Bydd Tim yn eich arwain drwy fywyd yn y gofod drwy luniau syfrdanol a ffilm anhygoel nas gwelwyd erioed o’r blaen. Mae’n gipolwg diddorol iawn o’r hyn ydyw bod yn ofodwr. O hyfforddi ar gyfer lansio, ‘cerdded yn y gofod’, i ddychwelyd i’r Ddaear, mae Tim yn datgelu’r cyfrinachau, y wyddoniaeth a’r rhyfeddodau ynglŷn â sut a pham mae bodau dynol yn teithio i’r gofod.

Bydd yn rhannu ei frwdfrydedd tuag at hedfan, archwilio ac antur – dyma’ch cyfle i dreulio noson gydag un o ofodwyr enwocaf y byd sy’n fyw heddiw, a chewch ailddarganfod rhyfeddod y lle hwn rydym yn ei alw’n gartref.

“It’s impossible to look down on Earth from space and not be mesmerised by the fragile beauty of our planet"

Tim Peake

“Everything you wanted to know about life in space”

The Times
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event