Vertical Dance - Dechreuwyr
-

Vertical Dance - Dechreuwyr

-
Archebwch nawr

Mae Dawns Fertigol yn defnyddio’r offer y byddwch yn eu defnyddio i ddringo a gweithio mewn mannau uchel (rhaffau, harneisiau a dyfeisiau abseilio) ar gyfer dawnsio yn yr awyr ac ar waliau. Mae’n ffordd wych o gadw’n heini, dysgu sgiliau newydd, bod yn greadigol ac, wrth gwrs, HEDFAN!

Nid oes raid bod gennych brofiad blaenorol er mwyn dod i’r dosbarthiadau hyn - byddwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio’r offer yn ddiogel, ac yn rhoi cyflwyniad i chi ar dechnegau dawns fertigol. Bydd yna gyfle hefyd i chi gael chwarae’n greadigol yn yr awyr.

Dechreuwyr - 10:00 - 11:30

  • Dydd Sadwrn 8 Ionawr 2022
  • Dydd Sadwrn 29 Ionawr 2022
  • Dydd Sadwrn 5 Chwefror 2022
  • Dydd Sadwrn 12 Chwefror 2022
  • Dydd Sadwrn 19 Chwefror 2022
  • Dydd Sadwrn 19 Mawrth 2022
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event