The Night Sky Show

The Night Sky Show

Gwerthu allan

Noson ddifyr i’r unigolion hynny sy’n edrych tua’r nen ac yn rhyfeddu... Dydi’r bydysawd erioed wedi bod gymaint o hwyl!

Yn defnyddio effeithiau gweledol anhygoel. Bydd The Night Sky Show yn mynd â chi ar daith epig ar draws y cyfanfyd o’r iard gefn wybrennol.

Sioe ar gyfer unrhyw un sydd â’r diddordeb lleiaf yn awyr y nos. Noson ar gyfer unrhyw un sydd eisiau chwerthin, dysgu a mwynhau.

Perfformiad hwyliog, difyr a chofiadwy a fydd yn eich helpu i ddeall a mwynhau’r nefoedd uwchben a thu hwnt.

Sioe i bawb heb ormod o wyddoniaeth ddwys nag esboniadau anodd eu dilyn. Mae ffuglen a ffeithiau gwyddonol yn cael eu cyfuno a’u cyflwyno mewn ffordd ddifyr sy’n hawdd ei deall.

 

NOSON WIRIONEDDOL WYCH I’W CHOFIO

Profiad theatraidd trawiadol i bawb. Taith o amgylch y cytser, y sêr, y planedau a mwy. Llawn teithiau a straeon difyr a phosibiliadau di-ben-draw ein dyfodol yn awyr y nos a thu hwnt.

Cyflwynir y sioe gan Adrian West – seryddwr, cyflwynydd ac awdur brwd a phrofiadol. Mae’n fwy adnabyddus fel VirtualAstro ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae ganddo un o’r cyfrifon annibynnol sy’n ymwneud â seryddiaeth a'r gofod mwyaf ar Twitter.

Mae Adrian wedi ysgrifennu erthyglau am seryddiaeth a’r gofod ar gyfer cylchgronau gwyddoniaeth ar-lein ac yn fwyaf diweddar, wedi ysgrifennu ei lyfr newydd - The Secret World of Stargazing. Mae hefyd wedi ysgrifennu canllawiau ac erthyglau ar gyfer y BBC, Y Swyddfa Dywydd a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i enwi ychydig yn unig.

Os byddwch chi’n troi’ch llygaid tua’r nen ac yn rhyfeddu, The Night Sky Show yw'r sioe i chi.

Paratowch ar gyfer profiad syfrdanol.

A TRULY FANTASTIC NIGHT TO REMEMBER

A spectacular theatrical experience for all. A journey around the constellations, stars, planets and more. With entertaining tours, stories, and the endless possibilities of our future with the night sky and beyond.

Presented by Adrian West - A passionate and experienced astronomer, presenter and author. Better known as VirtualAstro on social media. He has one of the largest independent astronomy and space accounts on Twitter.

Adrian has written astronomy and space related articles for popular online science magazines and more recently, his new book - The Secret World of Stargazing. He has also written guides and articles for the BBC, Met Office and National Trust to name a few.

If you look up and wonder, The Night Sky Show is for you.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event