The Osmonds Musical
-

The Osmonds Musical

-
Archebwch nawr

You Loved Them For A Reason. Rŵan, am y tro cyntaf, gallwch wylio sioe gerdd gwych newydd ac ail-fyw un o fandiau bechgyn mwyaf y byd.  Mae THE OSMONDS: A New Musical, yn adrodd yr hanes swyddogol gan Jay Osmond am y pum brawd o Utah gafodd eu hyrddio i sylw’r byd yn blant ac aeth ymlaen i gael caneuon poblogaidd degawd ar ôl degawd.

O’u cyfnod preswyl yn serennu ar The Andy Williams Show, at pan ymunodd Donny a Marie, bu The Osmonds yn byw bywyd rhyfeddol yn recordio albymau eithriadol o lwyddiannus, yn gwerthu pob tocyn ar gyfer cyngherddau mewn arenâu enfawr ac yn creu sioeau teledu oedd yn torri pob record – nes bod un penderfyniad gwael yn newid popeth.

Wedi’i gyfarwyddo gan Shaun Kerrison a’i goreograffu gan Bill Deamer, enillydd Gwobr Olivier, mae’r sioe gerdd newydd sbon yma’n cynnwys rhestr o anthemau yn cynnwys Love Me For A Reason, Crazy Horses, Let Me In, Puppy Love, One Bad Apple, Long Haired Lover From Liverpool, Paper Roses a llawer mwy, bydd THE OSMONDS: A new musical yn eich cludo nôl i ail-fyw’r 60au...y 70au...yr 80au....

Rydym ni’n cael parti, ac mae gwahoddiad i chi ymuno â ni am noson o ddrama, hiraethu a dawnsio yn yr eiliau.

⭐️⭐️⭐️⭐️

'Why wasn't this made years ago...it's a blast!'

Mail on Sunday
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event