Yn No Time To Die mae Bond wedi gadael gwasanaeth gweithredol ac yn mwynhau bywyd tawel yn Jamaica. Ond dydi’r tawelwch ddim yn para’n hi a ddaw ei hen gyfaill, Felix Leiter o’r CIA, heibio yn gofyn am gymorth.
Mae’r daith i achub gwyddonydd sydd wedi'i herwgipio yn troi’n llawer mwy bradwrus na’r disgwyl, gan arwain Bond ar drywydd dihiryn dirgel sydd wedi'i arfogi gyda thechnoleg newydd peryglus.