Money For Nothing

Money For Nothing

Taith Ben-blwydd 20 oed Band Teyrnged Dire Straits

Archebwch Nawr

Ffurfiwyd y band Money for Nothing yn y flwyddyn 2000 fel teyrnged i un o fandiau roc blaenaf y byd - Dire Straits. Mae egni di-ddiwedd a rhagoriaeth eu perfformiad yn golygu bod hon yn sioe y mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gwirioni ar gerddoriaeth roc neu’n un o ddilynwyr Dire Straits fynd i’w gweld. Yn arwain y band mae’r gitarydd gwych, Aled Williams, sy’n swnio’n union fel Mark Knopfler. Y tu ôl iddo mae cerddorion profiadol o’r safon uchaf sy’n golygu bod y band yma’n deyrnged teilwng i Dire Straits. Mae Aled a’r band cyfan wedi astudio Dire Straits yn drylwyr iawn er mwyn ail-greu teyrnged sydd mor agos at y gwreiddiol ag sy’n bosib.

Mae’n cynnwys yr holl ganeuon gorau, o’u sengl gyntaf un ‘Sultans of Swing’ i ‘Brothers in Arms’, ‘Walk of Life’ a’r sengl olaf iddynt ei rhyddhau ym 1992, ‘The Bug’.  Mae hefyd yn cynnwys y gân chwedlonol ‘Money For Nothing’ (gyda Sting), sef y fideo gyntaf erioed i gael ei chwarae ar MTV. Mae’r band hefyd yn chwarae fersiynau o 'On the Night' a 'Live @ The BBC'. Mae sioe lwyfan Money for Nothing wedi cael ei pherfformio ar hyd a lled Prydain a’r byd, ym mhob math o leoliadau a digwyddiadau – yn wyliau cerdd, theatrau a chlybiau nos.