Midge Ure

Midge Ure

Taith the Voice & Visions 2023

Archebwch nawr

Yn dilyn ymateb gwych i ‘The 1980 Tour’ yn 2019, mae Midge Ure a Band Electronica yn falch o fod yn ôl ar y ffordd yn 2023 gyda’r daith ‘Voice & Visions’, i ddathlu 40 mlynedd ers i Ultravox gyhoeddi’r albymau Rage In Eden a Quartet.

Ar ddechrau 1981, roedd Ultravox yn hawlio eu lle i fod yn un o’r bandiau a fyddai’n diffinio’r 80au yn dilyn llwyddiant byd-eang y gân ‘Vienna’. Wrth ddychwelyd i’r stiwdio yn yr un flwyddyn wedi’u hysbrydoli, fe wnaethant recordio eu hail albwm gydag Ure yn y blaen, Rage in Eden, a gyrhaeddodd y 5 Uchaf yn siartiau albymau Prydain.  Daeth Quartet, eu trydydd albwm gydag Ure, yn fuan wedi hynny yn 1982, wedi’i chynhyrchu gan yr enwog George Martin, cynhyrchydd y Beatles. I barhau â llwyddiant y band yn y siartiau, hwn oedd eu trydydd albwm i gyrraedd y 10 Uchaf, oedd yn cynnwys pedair cân o’r 20 Uchaf, gan gynnwys yr anthem ‘Hymn’.

Bydd taith ‘the Voice & Visions’ yn eich cludo chi’n ôl i ddegawd electroneg, arbrofi, syntheseiddio a chyfansoddi gwych. Bydd uchafbwyntiau’r albymau’n cael eu chwarae ochr yn ochr â’r caneuon enwocaf o gatalog blaenorol Ure.

I cant begin to tell you how great it feels to be back out touring after the uncertainty of the past two years and it is especially exciting to delve back in time and revitalise two standout albums from my career, Rage in Eden and Quartet. This is the logical and emotional follow up to the 1980 tour'

Midge Ure
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event