The Magic Flute (Spring)
-

The Magic Flute (Spring)

-
Archebwch nawr

Yr ymchwiliad am wirionedd a darganfyddiad

Camwch i fyd o ddirgelwch, hud a lledrith ac antur. Gyda ffliwt hudol a chasgliad o glychau hud i’w amddiffyn mae Tamino, ynghyd â’i gyfaill, y Daliwr Adar annwyl, yn cychwyn ar ei daith i achub Pamina o afael swynwr drygionus. Ar y ffordd mae’n dod ar draws cymeriadau bythgofiadwy – o Frenhines y Nos ryfeddol i anifeiliaid sy’n cael eu swyno gan gerddoriaeth. Ond wrth iddo oresgyn cyfres o heriau, nid yw popeth fel y mae’n ymddangos… 

Mae The Magic Flute yn opera ar gyfer pob oed, gydag enw da am fod yr opera gyntaf berffaith. Mae cynhyrchiad newydd WNO yn cymryd y stori dylwyth deg hudolus hon ac yn rhoi tro modern iddi. Wedi’i lleoli mewn byd o ffantasi, rhowch wledd i’ch llygaid gyda’r setiau a gwisgoedd lliwgar i gyfeiliant cerddoriaeth syfrdanol Mozart a stori ffraeth.

#WNOflute

 

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event