The Ladyboys of Bangkok

The Ladyboys of Bangkok

Archebwch nawr

Mae noson ALLAN-ALLAN FWYAF y DU yn ôl ar daith gyda’n cynhyrchiad newydd ar gyfer 2022.

Gydag 16 o sioeferched mwyaf ysblennydd a phrydferth y byd...

sy’n digwydd bod yn ddynion!!

O Hollywood i Bollywood ac o’r West End i Las Vegas, mae’r difas yma sy’n diferu o ddiemwntau yn perfformio ac yn ail-greu pob un o’ch hoff ganeuon gan eiconau pop enwocaf y byd. 

Cynhyrchiad newydd ar gyfer 2022 na allwch chi mo'i fethu, sy'n llawn comedi hwyliog a hyfdra beiddgar gyda dros 400 o wisgoedd anhygoel a chaneuon theatraidd pefriol a disglair rif y gwlith!

Yn swyddogol bellach, dyma’r sioe gabare fwyaf sydd wedi rhedeg hiraf yn y DU os nad y byd, ac wedi gwerthu allan dro ar ôl tro yng Ngŵyl Caeredin ers dros 21 mlynedd.

MAE’R DYNION YN ÔL YN Y DREF YN 2022!

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event