Katherine Ryan

Katherine Ryan

Missus

Archebwch nawr

Wedi creu a serennu yn y gyfres hynod boblogaidd The Duchess ar Netflix (ynghyd â dwy raglen gomedi arbennig fyd-eang hefyd ar Netflix: In Trouble a Glitter Room), mae Katherine Ryan, sy’n ddigrifwraig ac yn wyneb adnabyddus ar y teledu, yn dychwelyd i’r llwyfan gyda’i sioe fyw newydd sbon, Missus

Ar ôl dilorni bod mewn partneriaeth yn gyhoeddus, mae Katherine bellach wedi priodi ei chariad cyntaf, drwy ddamwain. Mae llawer wedi newid i bawb ac fe allwn ni edrych ymlaen at glywed safbwyntiau newydd tu hwnt o ddoniol Katherine Ryan ar fywyd, cariad a phopeth sy’n dod yn sgil bod yn ‘Missus’.