Johannes Radebe - Freedom

Johannes Radebe - Freedom

Archebwch nawr

Mae’r pencampwr dawnsio rhyngwladol, JOHANNES RADEBE, yn enwog am wneud sioe ohoni gyda’i symudiadau ffrwydrol ar Strictly Come Dancing, ac ni fydd ei daith gyntaf, FREEDOM, yn eithriad o gwbl!

Mae JOHANNES RADEBE – FREEDOM yn ddathliad o’r dawnsiau yr ydych wrth eich bodd â nhw, gyda steil ac egni nodweddiadol Johannes. O ddawnsiau Lladin tanllyd i rai dawnsfa cain, bydd cwmni o ddawnswyr cyffrous yn perfformio trefniannau dawns clasurol, rhythmau tanbaid o Dde Affrica, ac anthemau parti.

Bydd Johannes yn mynd â chi ar daith drwy’i fywyd ef ei hun, o dyfu i fyny yn Ne Affrica, i deithio’r byd, ennill cystadlaethau, a serennu yn rhai o eitemau mwyaf cofiadwy Strictly. Gadewch eich swildod y tu allan, a pharatowch am noson o egni, angerdd a RHYDDID yn 2022.