Jersey Boys
-

Jersey Boys

-
Archebwch nawr

Mae’r sioe enwog, JERSEY BOYS, yn dod yn ôl i Landudno!

Mae’r sioe gerdd boblogaidd wedi ennill 65 o wobrau mawr, ac wedi’i gweld gan dros 27 miliwn o bobl ar draws y byd.

Dim ond pedwar llanc o New Jersey oedden nhw, tan iddyn nhw ganu’u nodyn cyntaf un. Roedd ganddyn nhw sŵn nad oedd neb erioed wedi’i glywed o’r blaen... ac allai’r radio ddim cael digon ohono. Ond tra oedd eu harmonïau’n berffaith ar y llwyfan, roedd hi’n stori wahanol y tu ôl i’r llenni – stori sydd wedi creu cyffro ar draws y byd unwaith eto. Mae’r sioe’n cynnwys eu caneuon mwyaf poblogaidd i gyd, yn cynnwys “Sherry,” “Big Girls Don’t Cry,” “Oh What A Night,” “Walk Like A Man,” “Can’t Take My Eyes Off You” a “Working My Way Back To You”.

Dewch am dro y tu ôl i’r gerddoriaeth er mwyn clywed stori Frankie Valli a’r Four Seasons yn y sioe gerdd wreiddiol o Broadway, sydd wedi ennill Gwobr Olivier, JERSEY BOYS.   O strydoedd New Jersey i Oriel Anfarwolion Roc a Rôl, dyma’r sioe gerdd sy’n rhy dda i fod yn wir.

***** ‘Fight for a ticket to see Jersey Boys’

Manchester Evening News

***** ‘Oh What a Night’

Express & Star