Jason Manford: Like Me

Jason Manford: Like Me

Archebwch nawr

Mae o yn ei ôl!  Mae Jason wedi bod yn brysur yn y blynyddoedd ers ei sioe stand-yp ddiwethaf, ond bydd ffans ei raglen ar Absolute Radio yn gwybod nad yw’r comedïwr llwyddiannus hwn wedi newid dim.   'Like Me’ yw sioe gomedi ddiweddaraf Jason i fynd ar daith, ac mae hi’n sicr o gynnwys ‘comedi arsylwadol arbennig’ (The Guardian) yn gymysg â ‘doniolwch euraidd’ (Mail on Sunday).

Meddai Jason: “Ar ôl yr hwyl a gafwyd ar fy nhaith ddiwethaf, ‘Muddle Class’, dw i’n edrych ymlaen i fynd yn ôl ar y lôn gyda fy sioe stand-yp newydd, 'Like Me’.   Yn y dyddiau anodd hyn, mae hi’n bwysig iawn dianc am awr neu ddwy, ac ymarfer y cyhyrau chwerthin!   Felly dw i’n dod i leoliad yn eich ardal chi yn 2021/2022 er mwyn inni allu cael hwyl gyda’n gilydd.   Wela i chi bryd hynny.”

Mae ei ymddangosiadau ar ‘First & Last’ (BBC One), ‘The Masked Singer’ (ITV1), 'What Would Your Kid Do'  (ITV1), ‘Olivier Awards’ (ITV1), ‘Scarborough’ (BBC One), ‘8 out of 10 Cats’ (Channel 4), ‘The Nightly Show’ (ITV1), ‘Sunday Night at the Palladium’ (ITV1), ‘Live at the Apollo’ (BBC One), ‘Have I Got News For You’, (BBC One), ‘QI’ (BBC Two) a ‘The Royal Variety Performance’ (ITV1) i gyd wedi cyfrannu at wneud Jason yn enw adnabyddus iawn yn y byd comedi.

'Effortlessly entertaining'

Evening Standard