Jason Fox - Life At The Limit

Jason Fox - Life At The Limit

Archebwch nawr

Mae Jason Fox yn gyn-filwr gyda’r lluoedd arbennig ac yn seren y rhaglenni teledu SAS: Who Dares Wins, Inside The Real Narcos ac ef yw awdur Battle Scars, a gyrhaeddodd y brig mewn rhestr o lyfrau o werthwyd orau. Bydd yn dod â hanes rhyfeddol gorchestion beiddgar ei yrfa adnabyddus fel swyddog elît yn Lluoedd Arbennig y DU (SBS) i’r llwyfan ac ar daith am y tro cyntaf.

Bu Jason Fox ynghlwm â brwydrau saethu, achub gwystlon, diangfeydd beiddgar ac ymdrechion arwrol yn ystod ei yrfa. Ond yr oedd brwydr wahanol iawn yn ei wynebu gartref.

Mae ‘Life At The Limit’ yn stori syfrdanol gyrfa filwrol yn y Lluoedd Arbennig; cronicl o ddewrder gweithredol, antur a gwroldeb ar faes y gad, ac oddi arno.