Mae Black RAT Productions nôl yn y theatrau o'r diwedd ac i ddathlu, wedi creu cynhyrchiad gwreiddiol o glasur arswyd sci-fi HG Wells.
Cymru, 1933. Mae The Invisible Man, yn serenu Claude Rains, yn dychryn cynulleidfaoedd ledled y byd.
Mae gweithlu bach Neuadd y Gweithwyr Aberllanpencwm, sy'n dyblu fel neuadd bingo a sinema, yn croesawu cynulleidfaoedd i wylio The Invisible Man. O ganlyniad i drafferthion technegol mae rhaid i weithwyr y sinema adrodd y stori eu hunain. Mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd. Ai cyd-ddigwyddiad yw'r rhain? Yntau'r dyn anweledig ei hun sy'n gyfrifol?
Mae'r cynhyrchiad newydd yma gan gast anhygoel o 4 actor a digon o gyfraniadau gan y gynulleidfa yn llawn comedi corfforol, cerddoriaeth, byrfyfyrio, hud a lledrith a rhithiau. Dyma gynhyrchiad gwreiddiol o un o glasuron HG Wells trwy arddull Black RAT.
- Gan HG Wells
- Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon
- Comedi newydd sbon wedi'i ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Richard Tunley
- Cynllun gan Sean Crowley
- Golau gan Robin Bainbridge
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.