Gweithdy’r West End
-

Gweithdy’r West End

31 Gorffennaf - 4 Awst

-
Archebwch nawr

Gweithdy’r West End yn dod â sêr a hud West End Llundain i Ogledd Cymru.

Mae’r gweithdy wythnos o hyd unigryw hwn yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc gydag awch am berfformio gael eu dysgu gan sêr o brif sioeau’r byd theatr.

Wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer rhai 8 – 21 oed, mae’r gweithdy’n diweddu gyda pherfformiad byw o olygfeydd o rai o sioeau mwyaf y West End o flaen teulu a ffrindiau!

Yr hyn a gewch:

  • Perfformiad ar y prynhawn dydd Gwener yn Venue Cymru.
  • Gwersi gan sêr y West End a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
  • Dosbarth Meistri Dyddiol.
  • Sylw unigol mewn dosbarthiadau maint bach i wneud y mwyaf o bob moment.  
  • Cyfle i wneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd.
  • Magu hyder ar y llwyfan ac oddi arno.
  • Dau docyn am ddim i’r perfformiad.  (Tocynnau ychwanegol ar gael i’w prynu)
  • P’un a oes gennych lond trol o brofiad neu am ddarganfod eich talentau cudd, bydd gennym amgylchedd diogel a chefnogol i roi’r hyder i chi gyflawni eich potensial.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at info@westendworkshop.co.uk

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event