Gweithdy argraffu Syanolwmen

Gweithdy argraffu Syanolwmen

Archebwch Nawr

Mae’r artist Mary Thomas, sydd â’i gwaith yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy ar hyn o bryd, yn creu delweddau trawiadol gan ddefnyddio dwy broses ffotograffig Fictoraidd yn dyddio o 1842, nad ydynt yn ymwneud â chamera. Mae’n defnyddio toddiant syanoteip a phapur ffotograffig ystafell dywyll i greu delweddau gan ddefnyddio pŵer yr haul i’w datblygu, neu lamp uwchfioled ar ddyddiau cymylog.

Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad byr i’r broses cyn caniatáu i’r cyfranogwyr gael tro eu hunain! Bydd pawb yn mynd adref gyda 3 darn gorffenedig o waith o leiaf. Mae croeso i gyfranogwyr ddod â’u dail a’u blodau eu hunain gyda hwy, neu unrhyw beth gweddol fflat a fyddai’n gallu creu delwedd. Mae pob delwedd a grëir yn unigryw, sy’n gwneud y broses yn un gyffrous iawn.

  • Gweithdy argraffu Syanolwmen
  • Dydd Mercher, 18 Mai (p.m.)
  • 2pm – 4.30pm
  • Canolfan Ddiwylliant Conwy, Town Ditch Road, Conwy, LL32 8NU.
  • £10.00

Noder – dewch â ffedog gyda chi; os nad oes gennych un, bydd Mary yn rhoi un blastig i chi, ynghyd â menig. Sylwer mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd yn y sesiwn hwn, felly cynghorir i chi archebu lle’n fuan.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event