Golau Gaeaf – Y Daith 2021
-

Golau Gaeaf – Y Daith 2021

-
Archebwch Nawr

Y stori hyd yn hyn

Pennod 1

Gwelodd ‘Yr Helfa’ yr anhygoel Ychen Bannog, ychen Hugh Gadarn, a’r Llychlynwyr a orchfygodd y Gogarth ar un adeg, yn gorymdeithio drwy’r strydoedd wrth iddynt chwilio’n ddiddiwedd am Fôr-forwyn Conwy. Ymunodd Meistr y Cylch drygionus â nhw gyda'i osgordd Syrcas a'i Forwyr Tywyll. Byddai'r Fôr-forwyn yn gwneud gwobr wych ar gyfer ei gasgliad syrcas i ddenu torfeydd - ond ble mae hi? 

Pennod 2

Parhaodd ‘Pwrs y Fôr-Forwyn’ y stori gyda thafluniad syfrdanol yng Ngerddi’r Gogledd Orllewin.  Dangosodd hyn erledigaeth y fôr-forwyn dros y canrifoedd gan y Llychlynwyr, Hu Gadarn a Meistr y Cylch, a sut iddi osgoi gael ei dal yn barhaus – gan rasio a brwydro trwy'r tonnau. Bydd Tachwedd 2021 yn cyflwyno 

Pennod 3 “Y Ddalfa” perfformiad teithiol llai ac agosach atoch gan ddod â'r stori i gymunedau saith tref yng Nghonwy. Mae'n cynnig y cyfle i wylio’r rhan nesaf o’r stori hon wrth iddi ddatod. Y sibrydion yw bod y fôr-forwyn wedi cael ei dal o'r diwedd - felly ble mae hi? Wnewch chi ei gweld? Ai cyfaill neu elyn ydi hi? Un peth rydyn ni'n ei wybod yw na ddylid diystyru pŵer y fôr-forwyn...

---------------------------------------------------

Perfformiadau am 5.30pm a 7pm  

  • Dydd Sul 21 Tachwedd: Llanrwst
  • Dydd Llun 22 Tachwedd: Betws-y-Coed
  • Dydd Mawrth 23 Tachwedd: Llanfairfechan
  • Dydd Mercher 24 Tachwedd: Bae Cinmel
  • Dydd Iau 25 Tachwedd: Bae Colwyn
  • Dydd Gwener 26 Tachwedd: Conwy
  • Dydd Sadwrn 27 Tachwedd: Llandudno
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event