Mae pencampwr Strictly Come Dancing 2021 a’r pishyn o ddawnsiwr Giovanni Pernice yn eich gwahodd i ymuno ag o ar daith i’w famwlad ar gyfer ei gynhyrchiad newydd sbon ar gyfer 2023, ‘Made in Italy’.
Yn ymuno ag o, bydd ensemble arbennig o rai o’r dawnswyr a’r cantorion gorau o fyd dawnsio a’r theatr, felly mae’n argoeli i fod yn noson allan wych!
Mae’r sioe hon ar thema’r Eidal yn cynnwys caneuon anhygoel, coreograffi syfrdanol a gwisgoedd hyfryd. Ond cofiwch… yn yr Eidal, mae pethau’n gallu POETHI GO IAWN!