FREEDOM – gyda Joe McElderry

FREEDOM – gyda Joe McElderry

Archebwch nawr

Mae Freedom, gyda Joe McElderry yn chware’r brif ran, yn talu teyrnged i George Michael, un o gerddorion mwyaf eiconig y byd. 

Ar y daith newydd sbon hon bydd Joe McElderry, enillydd The X Factor, seren y theatr gerdd a chanwr sydd wedi cyrraedd rhif un yn y siartiau, yn gwefreiddio theatrau ledled y DU.

Enillodd Joe chweched gyfres rhaglen The X Factor ar ITV yn 2009 yn dilyn ei ddeuawd drawiadol gyda George Michael yn canu Don't Let The Sun Go Down On Me. Mae’r perfformiad hwnnw wedi cael ei wylio bron i 7 miliwn o weithiau ar YouTube ac mae’n foment y bydd Joe yn ei chofio am byth.

 “Being given the opportunity to perform alongside George was something I will always have,” meddai Joe. “To this day I still have to pinch myself that me, Joe McElderry, got to sing with George. It was an absolute honour and privilege.”

Yn dathlu catalog anferthol o ganeuon sydd wedi ennill gwobrau Grammy, bydd FREEDOM yn annog cynulleidfaoedd i godi ar eu traed a hel atgofion, gyda’r clasuron cyflym a’r baledi godidog yn cael eu perfformio gan Joe a band byw llawn.

Bydd y sioe llawn egni hon yn mynd â chi ar daith na allwch chi mo’i methu drwy ganeuon mwyaf llwyddiannus George, gan gynnwys:  Freedom, Careless Whisper, Wake Me Up Before You Go Go, Father Figure, Jesus To A Child, FastLove, Too Funky, Club Tropicana, Cowboys And Angels, Amazing, Outside, Faith a llawer mwy. 

Yn dilyn ei fuddugoliaeth ar The X Factor, llwyddodd Joe i gyrraedd brig y siartiau gyda chân yr enillydd, The Climb, ac ers hynny mae wedi mwyhau teithiau llwyddiannus ar draws y DU, gan gael ei goroni yn enillydd ail gyfres Popstar to Operastar yn 2011 a chyfres gyntaf The Jump yn 2014.

Yn 2015, chwaraeodd Joe brif ran Joseph yn nhaith y DU o Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat, yn ogystal â’r rôl deitl yn sioe gerdd rock The Who, sef Tommy.

Peidiwch â cholli’ch cyfle i weld y deyrnged syfrdanol hon i un o hoff artistiaid y byd, fydd yn teithio i bob theatr fawr y flwyddyn nesaf.   

YMWADIAD: Nodwch mai cynhyrchiad teyrnged yw hwn ac nad yw’n gysylltiedig nac yn cael ei gefnogi gan ystâd George Michael.
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event