Footloose
-

Footloose

-
Archebwch nawr

Yn dilyn dwy daith fawr eu clod a chyfnod yn y West End, mae Footloose yn ôl ac yn well nag erioed gyda’r anhygoel Jake Quickenden (Enillydd Dancing on Ice, Hollyoaks, Dreamboys, Hair, Peter Pan – A Musical Adventure) fel y cowboi annwyl, Willard, a’r amryddawn Darren Day (cymeriad teledu a seren nifer o sioeau West End a theithiau cenedlaethol, yn cynnwys Mame, Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat, Priscilla Queen of the Desert, Grease a Summer Holiday).

Mae bachgen y ddinas Ren yn credu fod bywyd yn ddigon drwg pan gaiff ei orfodi i symud i ganol cefn gwlad yn America. Ond daw ei fyd i stop pan mae’n cyrraedd Bomont i ddarganfod fod dawnsio a cherddoriaeth roc wedi’u gwahardd. Gan gymryd materion i’w ddwylo ei hun, mae Ren yn troi’r lle wyneb i waered a chael yr holl dref ar ei thraed.

Yn seiliedig ar y ffilm wych o’r 1980'au a gafodd lwyddiant ledled y byd, mae Footloose llawn ysbryd, hwyl a’r dalent gerddorol orau yn y DU.

Gyda choreograffi modern o’r radd flaenaf, byddwch yn mwynhau caneuon o’r 80’au gan gynnwys Holding Out for a Hero, Almost Paradise, Let's Hear It For The Boy ac wrth gwrs y gân fythgofiadwy Footloose.  

Footloose rehearsal pictures. Photos: Mark Senior

‘You leave feeling like you can change the world’ 

Manchester Evening News