Everybody's Talking About Jamie
-

Everybody's Talking About Jamie

-
Archebwch nawr

ENILLYDD! Y Sioe Gerdd Newydd Orau | Gwobrau Whats On Stage, Llundain

Yn dilyn tair blynedd yn y West End gan dorri recordiau, taith gyda sioeau llawn dop ledled y DU ac Iwerddon a ffilm stiwdio Amazon sydd wedi ennill gwobrau, mae’r sioe gerdd boblogaidd Everybody’s Talking About Jamie yn dod i Llandudno.

Mae Jamie New yn un ar bymtheg oed ac yn byw ar stad gyngor yn Sheffield. Dydi Jamie ddim yn ffitio i mewn. Mae Jamie yn poeni am y dyfodol.  Mae Jamie yn mynd i fod yn anhygoel.  Gyda chefnogaeth ei fam gariadus a gyda'i ffrindiau o'i gwmpas, mae Jamie yn goresgyn rhagfarn, yn trechu’r bwlis ac yn camu allan o’r tywyllwch i fynnu sylw.  Mae’r sioe gerdd ‘ddoniol, anhygoel, teimladwy’ (Daily Telegraph), yn un i’r teulu cyfan ac ni ddylid ei cholli!

Mae’r cast yn cynnwys Ivano Turco fel Jamie (Get Up, Stand Up, Bad Cinderella), Shobna Gulati fel Ray (The Rise and Fall of Little Voice, Everybody’s Talking About Jamie, Coronation Street, Brassic), Rebecca McKinnis fel Margaret (Everybody’s Talking About Jamie, Dear Evan Hansen, We Will Rock You, Les Miserables) a Talia Palamathanan fel Pritti (taith a ffilm Everybody’s Talking About Jamie), ac mae yna fwy o sêr i’w cyhoeddi.

Gyda nifer o ganeuon pop bachog a fydd yn ‘chwythu to’r Theatr’ (Mail on Sunday) gan ganwr a chyfansoddwr The Feeling,  Dan Gillespie Sells  a’r awdur Tom MacRae (Dr Who) bydd y ‘sioe gerdd anhygoel am ddod i oed’ (The Times) yn golygu y bydd pawb yn siarad am Jamie am flynyddoedd i ddod. Un ar bymtheg: ar ymyl posibilrwydd. Amser i wireddu’ch breuddwydion.

* Trailer includes cast from a previous production
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event