Elf the Musical
-

Elf the Musical

-
Archebwch Nawr

Gan ddychwelyd i theatr byw ar ôl y cyfnod clo, mae Llandudno Musical Productions yn falch o gyflwyno’r ffefryn Nadoligaidd, sef ‘Elf the Musical’!

Yn seiliedig ar y ffilm o 2003, mae’r stori yn adrodd hanes Buddy, sydd wedi cael ei fagu gan gorachod ym Mhegwn y Gogledd, ar siwrnai gyffrous i ddarganfod pwy ydi o go iawn. Mae’r daith yn mynd ag o i ddinas Efrog Newydd i ddarganfod ei dad go iawn, gweithiwr diarbed sydd ddim callach bod Buddy yn bodoli.

Ymunwch â Buddy wrth iddo grwydro’r ddinas enfawr a lledaenu llawenydd y Nadolig trwy ganu’n swnllyd i bawb ei glywed ac ychwanegu ychydig o ‘Sparklejollytwinklejingle’ i’r ddinas!

Dyma sioe berffaith i deuluoedd sy’n dechrau ymbaratoi ar gyfer cyfnod y Nadolig, ac mae’n cefnogi theatr byw sydd wedi dychwelyd. Dyma sioe na ddylech chi ei cholli!