Mae ein dosbarthiadau Dawnsio Fertigol yn cael eu cynnal mewn lleoliad hyfryd yng Ngerddi Botanegol Y Fach ar Y Gogarth yn Llandudno.
Mae Dawnsio Fertigol yn ffurf gyffrous o ddawnsio sy’n datblygu ac sy’n defnyddio cyfarpar dringo (rhaffau, harneisiau, dyfeisiau abseilio) i hongian dawnswyr oddi ar y llawr ar wahanol wynebau fertigol.
Kate Lawrence o VDKL (Vertical Dance Kate Lawrence) sydd yn cynnal y sesiynau, un o nifer o nifer cyfyngedig ond sy'n cynyddu o gwmnïau byd eang sy'n arbenigo yn y genre newydd hwn. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ym mhob sesiwn ac mae’n rhaid archebu lle a thalu ymlaen llaw.
Sesiwn Hedfan i Bobl Ifanc: 10 -18 oed
Sesiwn Hedfan i Oedolion: 18+
Anaddas i blant o dan 10 oed
Sesiynau: 9 Medi, 16 a 23 | 4pm a 5.30pm 14 a 21 Medi | 4pm a 5.30pm
£4 yr un – archebwch drwy’r Swyddfa Docynnau yn unig sef 01492 872000.
Lleoliad: Y Fach, Happy Valley Rd, Llandudno LL30 2QL