Cystadlaethau Corau Dydd Sul

Gŵyl Gorau Gogledd Cymru 2022

Cystadlaethau Corau Dydd Sul

Ychydig o Hwyl | Corau Merched

Archebwch nawr

Bydd yr ŵyl gorawl flynyddol yn dychwelyd i Venue Cymru o 5 Mawrth i 6 Mawrth am benwythnos llawn dop sydd yn siŵr o fod at ddant y rheiny ohonoch chi sydd wrth eich boddau â chanu corawl.

Bydd y cystadlu yn dechrau am 13.55pm ddydd Sadwrn, gyda’r Corau Cymysg a'r Corau Ieuenctid yn camu i’r llwyfan. Wedi hyn, cyfrifoldeb y beirniaid yw penderfynu pwy sy’n haeddu cipio’r wobr 1af, yr 2il a’r 3ydd.

Bydd y Cyngerdd Dathlu’r Ŵyl yn cael ei gynnal nos Sadwrn am 7pm, lle gall y corau fwynhau perfformio heb boeni am lygaid barcud y beirniaid!

Bydd y cystadlu yn dechrau am 11am unwaith eto ddydd Sul gyda’r Ychydig o Hwyl a Chorau Merched.

Rhaglen

  • 11:00 – 12:55: Ychydig o Hwyl
  • 14:00 – 15:15: Merched

Gall amseroedd y cystadlaethau newid. Gwiriwch wefan Venue Cymru neu wefan Gŵyl Gorau Gogledd Cymru i wybod yr amseroedd cychwyn diweddaraf cyn teithio.

* Bydd yr amseroedd terfynol ar gyfer bob categori yn cael eu cadarnhau ar 18 Chwefror 2022 ar www.gwylgorawlgogleddcymru.com.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event