Gŵyl Gorau Gogledd Cymru 2022
Cystadlaethau Corau Dydd Sadwrn
Corau Cymysg | Corau Ieuenctid
Bydd yr ŵyl gorawl flynyddol yn dychwelyd i Venue Cymru o 5 Mawrth i 6 Mawrth am benwythnos llawn dop sydd yn siŵr o fod at ddant y rheiny ohonoch chi sydd wrth eich boddau â chanu corawl. Bydd y cystadlu yn dechrau am 13.55pm ddydd Sadwrn, gyda’r Corau Cymysg a'r Corau Ieuenctid yn camu i’r llwyfan. Wedi hyn, cyfrifoldeb y beirniaid yw penderfynu pwy sy’n haeddu cipio’r wobr 1af, yr 2il a’r 3ydd.
Bydd y Cyngerdd Dathlu’r Ŵyl yn cael ei gynnal nos Sadwrn am 7pm, lle gall y corau fwynhau perfformio heb boeni am lygaid barcud y beirniaid!
Bydd y cystadlu yn dechrau am 11am unwaith eto ddydd Sul gyda’r Ychydig o Hwyl a Chorau Merched.
Rhaglen
- 13:55 – 15:00: Corau Cymysg
- 15:45 – 16:50: Corau Ieuenctid