The Chicago Blues Brothers

The Chicago Blues Brothers

A Night at the Movies

Archebwch nawr

Yn syth o’r West End yn Llundain, ymunwch â The Chicago Blues Brothers a’u band o 11 am sioe newydd sbon yn llawn canu, dawnsio, a’r anthemau ffilm enwocaf erioed.

Yn cynnwys caneuon o Footloose, A Star is Born, Dirty Dancing, The Greatest Showman, The Full Monty a llawer mwy, heb anghofio hoff glasuron y Blues Brothers, gyda llwyth o syrpreisys a llawer o firi.

Gan gadw at steil ac arddull Jake and Elwood, mae’r sioe’n cael ei pherfformio yn yr un ffordd wyllt, egnïol a heb ddal yn ôl sydd wedi gwneud The Chicago Blues Brothers yn un o’r sioeau theatr mwyaf llwyddiannus i deithio’r byd.

Fe fyddwch chi’n dawnsio, yn canu ac yn mwynhau pob eiliad.