Chicago
-

Chicago

-
Archebwch nawr

Mae CHICACO, “the sexiext musical ever” (Metro) yn ôl ar daith yn 2021. 

 “Murder, greed, corruption, exploitation, adultery and treachery…all those things we hold near and dear to our hearts” A dyna ddechrau’r sioe gerdd sydd wedi ennill llu o wobrau, CHICAGO. 

Wedi'i gosod yng nghanol dirywiad razzle-dazzle y 1920au, Chicago yw stori Roxie Hart, gwraig tŷ a dawnsiwr clwb nos sy'n llofruddio ei charwr ar ôl iddo fygwth ei gadael. Yn awyddus eithriadol i osgoi collfarn, mae hi’n twyllo’r cyhoedd, y wasg a’i chyd-garcharor, Velma Kelly, trwy logi cyfreithiwr troseddol mwyaf slic Chicago i drawsnewid ei throsedd maleisus mewn i doreth o benawdau syfrdanol, y math o benawdau allai fod ym mhenawdau papur tabloid heddiw. 

Wedi’i greu gan dalentau’r byd theatr John Kander, Fred Ebb a’r coregoraffwr enwog Bob Fosse, mae sgôr sosi a rhywiol CHICAGO gyda chaneuon anhygoel un ar ôl y llall yn cynnwys “Razzle Dazzle”, “Cell Block Tango” ac “All That Jazz”. Gyda 6 Gwobr Tony, 2 Wobr Olivier, gwobr Grammy® a miloedd ar eu traed yn clapio, yn ôl y Daily Telegraph mae CHICAGO yn “SUPERB” neu ... yn ôl y Sunday Express, CHICAGO “remains a phenomenon”. 

Peidiwch â methu allan, archebwch rŵan!  Byddai’n drosedd peidio... 

‘STILL THE SEXIEST MOST SENSATIONAL MUSICAL’

SUNDAY EXPRESS