The Cher Show
-

The Cher Show

-
Archebwch Nawr

Mae’r dduwies bop, a drodd yn un o sêr Hollywood, yr enillydd Grammy®, Oscar®, Emmy® a Golden Globe®, a brenhines ailddyfeisio’i hun, wedi concro’r cyfan. Mae hi bellach yn amser troi’r cloc yn ôl gyda’r sioe gerdd newydd, ffyrnig, wych hon gan awdur Jersey Boys er mwyn anrhydeddu brenhines wreiddiol sass -- y ddigymar Cher.

O fod yn blentyn ifanc gyda breuddwydion mawr, i fod ar uchelfannau enwogrwydd byd-eang, mae The Cher Show yn adrodd stori anhygoel taith hudolus Cher i enwogrwydd, gan fynd yn groes i gonfensiwn bob tro.

Mewn cybolfa o glitter a gogoniant llachar sy'n disgleirio o ffraethineb ac arddull unigryw Cher, byddwch yn dawnsio i sain ei chaneuon enwocaf, yn cynnwys The Shoop Song, I Got You Babe, If I Could Turn Back Time, Strong Enough a Believe. Sioe gerdd orfoleddus sy’n dathlu annibyniaeth a hunaniaeth unigol – cewch eich ysbrydoli gan ddylanwadwraig fwyaf ein cyfnod!

Ysgrifennwyd y sioe gan Rick Elice (Jersey Boys), a enillodd wobr Tony, ac mae’r cynhyrchiad Prydeinig newydd hwn wedi’i gyfarwyddo gan Arlene Phillips (Grease, Starlight Express), ei goreograffu gan Oti Mabuse (a enillodd Strictly ddwywaith), gyda gwisgoedd gan Gabriella Slade (Spice World Tour, SIX).