Mae’r actores, yr awdur, y flogiwr a’r seren West End wobrwyol Carrie Hope Fletcher yn cychwyn ar ei thaith gyntaf erioed o amgylch y DU.
Yn ‘Carrie Hope Fletcher – An Open Book’, bydd y seren sioeau cerdd yn chwarae cyfres o sioeau theatr rhwng Mai a Mehefin 2023 a fydd yn rhy dda i’w colli!
Wrth berfformio caneuon o’i gyrfa anhygoel, gallwch ddisgwyl ffefrynnau fel caneuon o Heathers, Les Miserables, The Addams Family a llawer mwy wedi’u plethu efo sgyrsiau am fywyd a gyrfa hynod ddifyr Carrie.