Carmen

Carmen

Archebwch Nawr

Carmen - yr opera fwyaf pwerus, difyr a swynol 

Cerddoriaeth gan Georges Bizet | Bydd y canu yn Ffrangeg a bydd isdeitlau Saesneg  

Wedi’i pherfformio gan Dnipro Opera o Wcráin.

Yn cynnwys actorion clodfawr a Cherddorfa fyw o dros 30 o gerddorion.

Carmen - mwynhewch wefr angerdd tanllyd, cenfigen a thrais opera mwyaf poblogaidd Seville Bizet’s o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae Carmen yn adrodd hanes cwymp Don José, milwr naïf sy’n disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â Carmen, femme fatale deniadol a rhydd. Mae Don José sydd wedi gwirioni â Carmen yn troi cefn ar ei gariad ar y pryd ac yn anwybyddu ei ddyletswyddau milwrol, ond mae’n colli Carmen i Escamillo, tareador dymunol.

Cydnabyddir cerddoriaeth Carmen yn eang am ba mor wych yw ei halawon, ei hawyrgylch cyfareddol, a’r offeryniaeth, yn ogystal â sgiliau Bizet wrth gynrychioli emosiynau a dioddefaint ei gymeriadau drwy gerddoriaeth.

Mae’r Toreador Song yn un o’r unawdau operatig mwyaf adnabyddus. 

Byddwch chi ar flaen eich sedd yn ystod golygfeydd lliwgar ac egnïol y sipsiwn. Bydd bywiogrwydd, brwdfrydedd a dwyster y perfformiadau yn aros yn y cof ymhell ar ôl i’r llen olaf gau. “Always top-quality productions from this producer”. Stage Talk Magazine

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.amande-concerts.co.uk

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event